Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau’r Proffesiwn Rheolaeth Adeiladu (Taliadau) (Cymru) 2023

 

 

Pwynt Craffu Technegol 1:                      Mae “camau” wedi ei ddefnyddio wrth gyfeirio at adrannau penodol, tra bod “unrhyw gam” wedi ei ddefnyddio pan fo’r cyfeiriad yn ehangach e.e. cyfeiriad at Ran 2A yn fwy cyffredinol. Dim ond adlewyrchu natur ehangach y swyddogaethau yn rheoliad 2(f) ac (g) a wna’r “unrhyw gam”.

 

Pwynt Craffu Technegol 2:                     Rhaid i Weinidogion Cymru weithredu’n rhesymol wrth gwrs. Ystyrir bod cynnwys “resymol” yn rheoliad 6(1) yn ddefnyddiol o safbwynt eglurder y gyfraith h.y., mae’n gwbl eglur i’r darllenydd fod rhaid i gred Gweinidogion Cymru fod yn seiliedig ar sail resymol.

 

Pwynt Craffu Technegol 3:                    Diolch am nodi’r hepgoriad. Mae’r geiriad coll yn ceisio egluro ymhellach ystyr “datganiad o’r gwaith a wnaed a’r costau y mae Gweinidogion Cymru wedi mynd iddynt” ond nid yw ynddo’i hun yn effeithio ar ba wybodaeth y mae rhaid ei darparu i’r talai, ac fel y cyfryw nid yw Llywodraeth Cymru yn ystyried bod hyn yn effeithio ar weithrediad y ddarpariaeth.

Byddwn yn mewnosod y geiriad coll yn y rheoliad Cymraeg pan fydd y Rheoliadau yn cael eu diweddaru nesaf. Nid oes gennym amserlen ar gyfer hyn ar hyn o bryd.

 

Pwynt Craffu ar Rinweddau 4:                          Mae’r Cod Ymddygiad, y Rheolau Ymddygiad Proffesiynol a’r Rheolau Safonau Gweithredol wedi eu cyhoeddi ar-lein ac maent ar gael ar: https://www.llyw.cymru/safonau-codau-rheolau-ar-gyfer-y-proffesiwn-rheoli-adeiladu

Noder bod y dogfennau hyn wedi eu cyhoeddi ar ffurf ddrafft ar hyn o bryd. Cyhoeddir fersiynau terfynol cyn ei gwneud yn orfodol i arolygwyr adeiladu a chymeradwywr rheolaeth adeiladu, y mae’r rheoliadau hyn yn ymwneud â hwy, gael eu cofrestru ym mis Ebrill 2024.

Nid yw’r cynllun codi tâl wedi ei gyhoeddi eto. Caiff ei gyhoeddi ar-lein ar ei ffurf derfynol cyn i’r cofrestrau ar gyfer arolygwyr adeiladu a chymeradwywr rheolaeth adeiladu agor yng Nghymru. Bwriedir i hyn ddigwydd ym mis Ionawr 2024.